ADNEWYDDU

Dim wal geudod? Dim problem.

Os cafodd eiddo ei adeiladau cyn 1930, yna mae’n debyg y bydd ganddo waliau brics cadarn. Hyd yn oed yn y 50au a’r 60au adeiladwyd nifer o adeiladau gyda fframiau dur a phaneli concrid parod. Cynhyrchodd y ddwy dechneg briodweddau insiwleiddio gwael iawn. Nid yw gwella eu perfformiad drwy ychwanegu insiwleiddio ceudod yn ddewis, gan nad oes yna ofod i’w lenwi.

Felly beth ellir ei wneud er mwyn gwneud y tai hyn yn gynhesach ac yn rhatach i’w gwresogi?

Mae Hillserve yn cynnig dau ddatrysiad, sydd ill dau yn defnyddio waliau sydd eisoes yn bod fel sail i wella perfformiad dargludedd. Drwy ychwanegu naill ai cladin allanol neu gladin mewnol, mae hyd yn oed yr adeiladau hynaf yn gallu ennill yr un graddiad thermal â chartref modern.

Y cynnyrch a ddefnyddiwn yw: Ecorock / Wetherby / Weber