


Mr and Mrs Cresswell o flaen eu tŷ cynhesach
Arbrawf EcoRock – Paentio’r byd yn wyrdd yn ‘The Green’
Yn 2008 daeth Plus Dane Housing Group at Hillserve er mwyn eu cynorthwyo i wella inswleiddio eu tai tun ‘pre-fab’ yn ‘The Green’, Chadwick Road, Middlewich. Cafodd y rhes o fyngalos ‘pre-fab’ tun eu hadeiladu yn yr 1950au cynnar fel rhan o’r Rhaglen Cartrefi Dros Dro. Ar y pryd pan roedd deunyddiau adeiladu traddodiadol yn brin, roedd tai tun yn cael eu hadeiladu o fframiau coed, a dalennau metel. Trosglwyddwyd pob un i’r safle fel pecyn fel y gallent gael eu “dechrau yn y bore a’u gorffen erbyn amser te”. Er gwaethaf eu hadeiladu o ddeunyddiau dros dro, cawsant eu hadeiladu mor dda nes bod nifer yn parhau hyd heddiw a bod eu trigolion gwreiddiol yn dal i fyw ynddynt. Fodd bynNac, oherwydd prinderau’r 50au, adeiladwyd byngalos Chadwick Road heb unrhyw fath o ddeunydd insiwleiddio ac maent yn anodd, ac yn ddrud, i’w cadw’n gynnes.
Sylweddolodd Hillserve bod angen rhywbeth allai wella edrychiad allanol y byngalos haearn, a chadw’r gwres y tu mewn iddynt. Darganfu Hillsereve yr ateb perffaith, sef cynnyrch newydd o’r enw EcoRock sy’n gallu gostwng dargludiant thermal o dros 80%.
Wedi’i gynhyrchu gan Rockwool, mae EcoRock yn ffibr naturiol wedi’i gywasgu ac wedi’i osod i du allan adeilad a’i wynebu gyda rendrad cwarts mewn dewis o liwiau. Fel gosodwr cydnabyddedig o Insiwleiddio Wal Allanol, wedi’i gymeradwyo gan British Gas a Rockwool, roedd Hillserve yn ddelfrydol o gymwys i ymgymryd â’r prosiect ailwampio.
Wedi penderfynu ar drwch yr EcoRock oedd ei angen i wella’r byngalos i safonau thermal modern, trosglwyddodd arolygwr Hillserve y gwaith i dîm gosod Hillserve. Yn gyntaf, gosodwyd slabiau EcoRock i’r waliau allanol gwreiddiol, ac wedyn defnyddiwyd rendrad sy’n gwisgo’n dda a lliw anniflan er mwyn creu cartref moethus, sy’n dal y tywydd, sy’n cadw gwres ac sy’n glyd i drigolion oedrannus.
Roedd adnewyddu’r byngalo cyntaf mor llwyddiannus nes bod Ymddiriedolaeth Dai Plus Dane wedi gofyn i Hillserve osod EcoRock ar yr 20 adeilad oedd ar ôl ar Chadwick Road mewn pryd ar gyfer y gaeaf hwn.
