ADNEWYDDU: ASTUDIAETHAU ACHOS

Arbrawf Spacetherm – O’r Gofod i Gaer

Beth sydd gan ofodwr yn teithio o gwmpas y ddaear ar gyflymder o 17,000 milltir yr awr yn gyffredin â phreswylwyr tŷ teras yn Middlewich, tref marchnad yng nghanol Swydd Gaer? Yr ateb yw deunydd insiwleiddio arloesol ardderchog o’r enw Spacetherm. Yr un deunydd sy’n amddiffyn gofodwr NASA sy’n cerdded yn y gofod rhag eithafion tymheredd ac sydd nawr yn cael ei ddefnyddio er mwyn insiwleiddio tai bob dydd.

Pan ofynnwyd i Hillserve gynorthwyo perchnogion tŷ pen teras Hayhurst Avenue i wella insiwleiddio ei hadeilad, roedd Spacetherm yn ateb delfrydol, gan fod ei dechnoleg yn unigryw, gyda’r gwerth U teneuaf ond mwyaf ar y farchnad.

Gosododd tîm gosod Hillserve y paneli Spacetherm tenau yn syth i’r gorffeniadau wal presennol gyda hoelion gwaith maen safonol. Wedi iddynt gael eu tapio a’u ffeilio, yn union fel bwrdd plastr arferol, roeddynt yn barod am y driniaeth olaf. Un cynnyrch technoleg uwch ac un tîm insiwleiddio’n ddiweddarach ac mae’r canlyniad yn ddatrysiad syml, ond yn un sy’n effeithiol a chain.

<<Yn ôl