CWESTIYNAU CYFFREDIN

Mae gan Hillserve yr atebion

Byddwch yn gwybod bod insiwleiddio’ch tŷ yn gwneud synnwyr, ond mae un neu ddau o bethau yr hoffech ei ddarganfod. Yma, gall Hillserve ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml.

Q)

Faint allwn ei arbed go iawn drwy insiwleiddio fy nhŷ’n iawn?

A)

Os nad yw eich waliau ceudod wedi’u hinsiwleiddio, gallech fod yn colli hyd at 35% o wres eich cartref drwyddynt - gwres yr ydych yn talu amdano. Drwy atal y colli hwn gallech weld eich biliau ynni yn disgyn tua £70-£100 bob blwyddyn - swm allai bron â dyblu drwy sicrhau bod eich atig wedi’i hinsiwleiddio hefyd.

Q)

Ydy hi’n wir fy mod yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd drwy insiwleiddio fy nghartref?

A)

Mae nifer o’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi hefyd yn cynhyrchu nwyon fel carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd, sy’n cyfrannu tuag at gynhesu byd eang pan ryddheir hwy i’r atmosffer. Drwy insiwleiddio’ch cartref byddwch yn ei wneud yn fwy ynni effeithiol, gan leihau nifer y nwyon hyn a’u heffeithiau.

Q)

Clywais fod grantiau ar gael - fyddwn i’n gymwys i dderbyn un?

A)

Gallai pobl ar rai mathau o fudd daliadau a chymorth fod yn gymwys i dderbyn grant 100% i dalu am gyfanswm cost insiwleiddio’u tai. Gallai hyd yn oed y rhai hynny sydd ddim yn derbyn y budd-daliadau hyn fod yn gymwys am ostyngiad o rhwng 50% a 70%. Gallwch ddarganfod os ydych yn gymwys ac am faint drwy siarad ag aelod o dîm gofal y cwsmer Hillserve ar 0800 622415.