Effeithiolrwydd Ynni

Mae’n ffaith syml fod ein hinsawdd yn newid. Un o’r prif resymau bod hyn yn digwydd yw oherwydd gormod o nwyon fel carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd yn ein hatmosffer. Mae’r rhain yn ffurfio haen drwchus uwchben ein planed sy’n atal gwres yr haul rhag dianc yn ôl i’r gofod, gan achosi tymheredd y ddaear i godi.

Gan chwarae ein rhan yn amddiffyn yr amgylchedd, rydym bob amser wedi ymdrechu i fod yn rhan weithredol o’r gymuned ac oherwydd hyn rydym bob amser yn ystyried yr effaith a gawn yn lleol a sut y gallwn gyfrannu i well amgylchedd i bawb.

Gallai effeithiau’r codiadau hyn yn y tymheredd fod yn drychinebus ac yn barod mae’n achosi capiau iâ i doddi, gan godi lefelau môr a chynyddu’r peryg o lifogydd. Yn y D.U. yn unig, mae enghreifftiau’n dod yn fwyfwy cyffredin gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio.

Er mwyn ceisio arafu’r newidiadau hyn, rhaid i ni ostwng faint o nwyon niweidiol sy’n cael eu rhyddhau am fod canran uchel ohonynt yn dod o ganlyniad i losgi tanwydd ffosil er mwyn cynhyrchu’r ynni rydym yn ei ddefnyddio yn ein cartrefi.

Am y rheswm hwn, ni all Hillserve bwysleisio pa mor bwysig yw hi eich bod yn insiwleiddio’ch tŷ yn iawn.