GOFAL CWSMER
Cliciwch yma i lwytho i lawr Polisi Gofal Cwsmeriaid Hillserve
Allwch chi ddim ennill enw da fel ein un ni heb sicrhau bod pob cwsmer yn derbyn y gwasanaeth gorau posib. Dyna pam bod pob gwaith yn cael ei wneud gan bobl sy’n hollol gymwysedig, bydd pob cwsmer yn cael eu trin gyda pharch llwyr, y bydd eu manylion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac y bydd y systemau cywir mewn lle er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael gwybod y diweddaraf bob amser cyn, yn ystod ac ar ôl y broses osod.
Er mwyn ein helpu i wneud hyn:
- Mae’r holl staff rheoli yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.
- Mae pob gwaith yn cael ei fwcio’n ddyddiol o’r Brif Swyddfa, gyda gosodwyr yn gwirio bob bore i sicrhau bod apwyntiadau’n cael eu cadw.
- Mae archwilwyr Hillserve yn monitro o leiaf 80% o’r gwaith yn fewnol
- Rydym yn darparu rhif ffôn am ddim i gael cyngor ac i wneud ymholiadau ar 0800 622 415.
- Rydym yn cynnal arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid yn rheolaidd ar y ffôn neu drwy’r post.
Cliciwch yma i lwytho i lawr Polisi Gofal Cwsmeriaid Hillserve
