Allech chi dderbyn grant i’ch cynorthwyo i dalu cost insiwleiddio?
Os ydych yn ystyried insiwleiddio’ch cartref ond yn meddwl y gallai’r gwaith gostio gormod, mae’n amser ailfeddwl. Fel rhan o ymroddiad i amddiffyn yr amgylchedd drwy well effeithiolrwydd ynni mae’r Llywodraeth a nifer o awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a chwmnïau gwasanaethau yn cynnig grantiau a phrisiau rhatach er mwyn cynorthwyo unigolion i dalu cost insiwleiddio’u cartrefi. Gallwn eich cynorthwyo i ddarganfod os ydych yn gymwys a beth sydd ar gael yn eich ardal.
Darganfod os ydych yn gymwys
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd daliadau canlynol gallech fod yn gymwys i dderbyn grant 100%, fyddai’n golygu y gallech gael insiwleiddio’ch cartref yn rhad ac am ddim:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Budd-dal y Dreth Gyngor
- Credyd Treth i Bobl Anabl
- Pensiwn Anabledd Rhyfel (cyn belled â’ch bod yn derbyn Atodiad Symudedd neu Lwfans Gweini Cyson)
- Lwfans Gweini
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (cyn belled â’ch bod hefyd yn derbyn Lwfans Gweini Cyson)
- Credyd Treth Plant (oddi mewn i baramedrau incwm blynyddol)
- Credyd Treth Gwaith (oddi mewn i baramedrau incwm blynyddol)
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Credyd Pensiwn
Hyd yn oed os nas ydych yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, gallech ddal i fod yn gymwys am ostyngiad ym mhris insiwleiddio’ch cartref am rhwng 50% a 70%, beth bynNac fo’ch incwm
Am fwy o wybodaeth am yr holl fathau o grantiau sydd ar gael a’ch hawl iddynt, ffoniwch Hillserve nawr ar 0800 622415
