IECHYD A DIOGELWCH

Ystyriwn iechyd a diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid o’r pwysigrwydd mwyaf. Yn ogystal â chael Rheolwr wedi’i neilltuo i Ddiogelwch, Iechyd ac Amgylchedd (SHE), mae pob un o’n gosodwyr yn gwneud cwrs cyflwyno a hyfforddi sydd wedi’i ddylunio i hyrwyddo safonau crefft o ansawdd uchel.

Mae’r mwyafrif o staff wedyn yn ymgymryd â hyfforddiant pellach fel Cymorth Cyntaf, gyda rhai yn arbenigo mewn rhai meysydd fel Codi Sgaffaldiau, Gyrru Wagen Fforch Godi ac Ardystiad Dylunio System

Rydym hefyd yn annog ein holl staff i ennill cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith, gan ehangu set sgiliau ein gweithlu a’n helpu i gynnal safonau. Ymhellach, mae ein holl weithdrefnau yn cael eu hadolygu a’u diwygio’n gyson er mwyn osgoi damweiniau neu anafiadau.

Cliciwch yma i lwytho i lawr Bolisi Iechyd a Diogelwch Hillserve