Mae’n siŵr eich bod yn gwybod bod gwres yn codi, ond oeddech chi’n gwybod y gallech chi fod yn colli tua 25% o wres eich cartref drwy’r to?
Mae colli gwres yn golygu biliau ynni uwch. Fodd bynnag, gallwch osgoi hyn drwy wneud yn siŵr bod eich atig wedi ei insiwleiddio’n ddigonol, naill ai o’r cychwyn gydag adeilad newydd neu drwy gynyddu’r lefel presennol o insiwleiddio hyd at y lefel angenrheidiol.
Gosod insiwleiddio atig yn gyflym, proffesiynol a glân.
Mae Hillserve yn brofiadol mewn insiwleiddio gofod atig yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd tîm o ddau osodwr profiadol yn gwneud y gwaith, gan insiwleiddio o fondo eich to allan tuag at ganol yr atig. Ble mae’n bosib, gosodir y deunydd insiwleiddio dan geblau a gwifrau er mwyn parhau i adael mynediad, a’i osod yn glyd o gwmpas pob trawst.
Unwaith mae’r gwaith wedi’i gwblhau, bydd ein gosodwyr wedyn yn tynnu’r holl ddeunydd pacio a’r gwastraff o’r deunyddiau a ddefnyddiwyd gan adael eich gofod atig yn lân a thaclus.
Sicrhau diogelwch bob amser
Gyda Hillserve, Iechyd a Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac mae’n gweithwyr yn gwisgo’r offer amddiffynnol angenrheidiol bob amser. Rydym hefyd yn cynghori ei fod yn cael ei wisgo gan unrhyw un arall sy’n mynd i’r gweithle. Gallwn hefyd gyfyngu ar fynediad i ardal yr atig nes bod y gwaith wedi’i gwblhau i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid i gyd.
