Hillserve Help
NEWYDDION

Hillserve HELP

HYDREF 2009

Pan ddywedwyd wrth Mr a Mrs Walker o Bwllheli eu bod yn gymwys i gael eu hatig wedi’i hinsiwleiddio am ddim cawsant ill dau eu synnu. Er eu bod yn bensiynwyr, nid oedd y ddau’n ymwybodol y gallent wella eu tŷ am ddim.

Mae rhaglen “Yma i HELPU” (“Here to HELP”) Nwy Prydain yn cynorthwyo pobl dros 70 i wella eu safon byw drwy dasgau ymarferol, fel cyflenwi ac insiwleiddio am ddim, a gwasanaethau fel rhoi Mrs Walker mewn cysylltiad â’r Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol i’r Deillion (RNIB). Mae’r RNIB wedi darparu lamp sefyll gyda chwyddhadur yn rhan ohoni i’w helpu i ddarllen ac aelodaeth am ddim o’r sefydliad.

Gofynnodd Nwy Prydain yn gyntaf i Hillserve wneud arolwg o’r cartref ac awgrymu’r dull hawsaf i wella cadw gwres. Gosododd ein tîm gosod insiwleiddio newydd yn yr adeilad, gan gynorthwyo i’w gadw’n llawer cynhesach dros y gaeaf.

<<Yn ôl