NEWYDDION

Carpion Papur

Ionawr 2008

Nid yw’n syndod fod cwmni fel Hillserve sydd wedi ymroi i gadwraeth ynni, â pholisi amgylcheddol cynhwysfawr. Mae cynaladwyedd yn chwarae rhan mewn popeth o ddewis deunydd insiwleiddio i gael gwared â hen getris argraffydd.

Pan welodd Ros Scott-Bates o swyddfa Hillserve yn Bedbury lythyr yn y papur lleol, meddyliodd y gallai’r cwmni ehangu ei enw da amgylcheddol hyd yn oed ymhellach.

Roedd angen deunydd gwely addas ar frys gan Loches Cwningen a Mochyn Cwta Tameside ar gyfer eu cymuned gynyddol o ffrindiau del a blewog. Gan wybod gymaint o bapur oedd canghennau Hillserve yn ei rwygo bob mis, sylweddolodd Ros y gellid gwneud defnydd da o fagiau o wastraff papur fel gwely cynnes i’r anifeiliaid.

Roedd Elaine Padley, sy’n gyfrifol am y lloches, wrth ei bodd ac mae hi nawr yn derbyn llwythi rheolaidd o bapur Hillserve wedi’i rwygo. Mae’r gwastraff papur yn helpu Elaine i gadw anifeiliaid bach sydd wedi eu gadael yn gynnes cyn, gobeithio, iddynt gael eu hail gartrefu. Gwnaed gymaint o argraff ar Julie Hadfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Hillserve, gan ymdrechion Elaine nes bod Hillserve wedi noddi’r lloches drwy gydol 2007

<<Yn ôl