Yn y Cyfrwy dros Christie
NEWYDDION

Yn y Cyfrwy dros Christie

Medi 2009

Mae Hillserve yn falch o gael tîm o weithwyr sy’n ymroddedig i godi pres. Eleni, syrthiodd y sialens i Paul Craven, Pennaeth Monitro Technoleg yn Hillserve, wnaeth yn ddiweddar gymryd rhan yn reid beics Manceinion i Blackpool 2009, sy’n codi arian i Ysbyty enwog Christie.

Am y bumed flwyddyn yn olynol, gadawodd Paul Old Trafford gyda 9,000 o feicwyr eraill a mynd i’r gorllewin tuag at bromenâd Blackpool. Wedi 20 milltir, bu cyffwrdd rhwng olwynion wnaeth lorio beiciwr Hillserve a phump arall, gyda thri ohonynt yn reidio dros Paul!

Wedi brifo ychydig, parhaodd Paul i reidio er cof am ei dad a’i daid wnaeth, er gwaethaf ymdrechion gorau Ysbyty Christie, fu farw o gancr oddi fewn i ychydig wythnosau i’w gilydd. Croesodd Paul y llinell yn Blackpool wedi codi £770 i Victoria House, uned breswyl ar gyfer perthnasau cleifion Ysbyty Christie.

Sefydlwyd Apêl Victoria House gan Rita Green o Hillserve, fu a merch yn glaf yn Ysbyty Christie.

<<Yn ôl