
Gwobrau yn y Gorllewin
HYDREF 2009
Mae Cymdeithas Dai City West yn gofalu am 14,700 o dai yn y Gogledd Orllewin, ac mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol i wario dros £900 miliwn ar eu cymdogaethau dros y 30 mlynedd nesaf. Dros y pum mlynedd nesaf yn unig, bydd yn gwario £235 miliwn ar welliannau i’r tai.
Yn Hillserve rydym eisoes wedi bod yn rhan o ddiweddaru insiwleiddio mewn nifer o adeiladau City West gan ddefnyddio’r deunyddiau insiwleiddio modern gorau gan ddarparwyr mwyaf blaenllaw'r byd. Rydym bob amser eisiau gwybod beth mae’n cwsmeriaid yn feddwl o’n gwasanaeth, ein timau gosod ac wrth gwrs y gwahaniaeth mae insiwleiddio da yn ei wneud i’w cartrefi.
Wedi gorffen pob gwaith, rydym yn gofyn i’n cwsmeriaid City West i gyflawni holiadur byr am eu profiadau gyda Hillserve, er mwyn gadael i ni wybod pa mor dda y gwnawn ein gwaith. Bob mis mae enw un ymatebydd lwcus yn cael ei dynnu ar hap ac yn derbyn taleb £25, i siop o’u dewis nhw. Yn ddiweddar, enillodd Mrs. Hiles o Swinton a bydd yn gwario’i thalebau yn Homebase yn fuan iawn.
