British Gas Logo
NEWYDDION

Hillserve yn cydweithio â Nwy Prydain

Ebrilll 2010

Daeth Hillserve Ltd. o Bredbury; cwmni arbenigol mewn insiwleiddio domestig yn rhan o fusnes insiwleiddio newydd Nwy Prydain ar 12fed o Ebrill. Bydd Nwy Prydain yn cael budd o gynrychiolaeth gref Hillserve a’u henw da yng ngogledd orllewin Lloegr, tra bydd Hillserve yn cael mynediad i adnoddau mawr eu rhiant gwmni newydd.

Wedi’i sefydlu gan Harry Hearsum yn 1985, dathlodd Hillserve 25 mlynedd o fasnachu ar yr 11eg o Ebrill, dau ddiwrnod cyn i riant gwmni Nwy Prydain, Centrica, eu prynu. Fel busnes teulu, tyfodd Hillserve i feddu ar dri safle ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Ar y funud mae’r cwmni yn cyflogi 146 o bobl ac wedi gwneud 40,000 o osodiadau’r llynedd ar ran perchnogion tai preifat, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Mae llwyddiant Hillserve wedi’i seilio ar ardderchowgrwydd technegol a gofal cwsmer, sydd, yn ôl June Hadfield, Rheolwr Cyffredinol Hillserve, yr hyn sydd wedi gwneud dynesiad Nwy Prydain yn rhywbeth i’w groesawu, “Yn gynnar iawn yn ein trafodaethau, roedd yn amlwg bod y ddau gwmni yn credu  bod gofalu am y cwsmer y ffordd orau i ddatblygu busnes. Yr athroniaeth gyffredin yma, wedi’i chyfuno â’r gefnogaeth y gall un o sefydliadau mwyaf llwyddiannus y D.U. ei ddarparu, wnaeth wneud y berthynas yn atyniadol iawn i ni.”

Insiwleiddio’r cartref yw’r ffordd fwyaf cost effeithiol o ostwng defnydd  ynni ac mae gan Nwy Prydain gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y busnes mae Hillserve yn rhan allweddol ohono. Erbyn diwedd 2011 maent yn cynllunio cyflogi 1,100 o bobl ac yn disgwyl i’r farchnad dyfu i £1.4 biliwn dros y bum mlynedd nesaf. Mae Julie Hadfield yn credu ei bod yn amser delfrydol i Hillserve ddod yn rhan o Nwy Prydain, “Bydd yr angen cynyddol i arbed ynni yn gweld datblygiad cyflymach o dechnegau a deunyddiau insiwleiddio newydd. Fel rhan o Nwy Prydain, bydd Hillserve nawr yn gallu sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael budd ganddynt mor fuan ag sy’n bosib.”

<<Yn ôl