NEWYDDION

Cwmni arbenigol insiwleiddio yn y cartref, Hillserve, yn dathlu pen-blwydd yn 25 oed

Ebrill 2010

Ar Ebrill yr 11eg dathlodd Hillserve ei ben-blwydd yn 25 oed. Am chwarter canrif bu’r busnes o Bredbury yn darparu gwasanaeth insiwleiddio cartref arbenigol ar gyfer cwsmeriaid drwy ogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Yn ogystal â gwasanaethu perchnogion cartref yn uniongyrchol, Hillserve yw’r contractwr insiwleiddio o ddewis ar gyfer sawl awdurdod lleol, cymdeithasau tai ac adeiladwyr tai o safon. Mae Hillserve yn cyflogi 159 o bobl a llynedd gosodwyd deunydd insiwleiddio mewn bron i 40,000 o adeiladau.

Cred Julie Hadfield, wnaeth olynu ei thad a sefydlydd y cwmni Harry Hearsum fel Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2000, bod athroniaeth Hillserve o gyfuno proffesiynoldeb busnes mawr gyda gofal cwsmer busnes bach wedi bod yn allweddol i’w lwyddiant, "Mae ein twf dros y 25 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyson a naturiol. Mae hyn wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar ddatrysiadau arloesol a boddhad cwsmer oedd yn sail i’r cwmni yn 1985".

.Wrth edrych yn ôl dros 25 mlynedd, mae Julie yn falch o lwyddiannau Hillserve, “Er gwaetha amseroedd economaidd anodd, rydym wedi gofalu am ein staff, tyfu’r busnes a gwella ansawdd bywyd ein cwsmeriaid. Gydag angen cynyddol i arbed ynni, mae’r 25 mlynedd nesaf yn sialens rydym yn edrych ymlaen ati yn hyderus.”

<<Yn ôl