NEWYDDION

Radio Hillserve

GORFFENNAF 2009

Pan glywodd y merched yn nhîm Monitro Technoleg Hillserve bod eu gorsaf radio cymuned leol, Tameside Radio, yn cynnig y cyfle i fusnesau gynnal rhaglen dwy awr wedi ei darlledu’n fyw o raglen Wayne Kay Drive Time, fe benderfynon nhw gynnig Hillserve fel stiwdio dros dro.

Bu Rita Green o Fonitro Technegol yn trafod y syniad gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr Julie Hadfield cyn cysylltu â Tameside Radio a mentro cymryd rhan yn y gystadleuaeth i gynnal y sioe. Wedi ambell wythnos nerfus, daeth y newyddion bod Hillserve wedi eu dewis ac y byddai criw Tameside Radio yno ar yr 22ain Gorffennaf 2009.

Wedi i’r tîm osod eu hoffer darlledu y tu allan, aeth Wayne Kay ar y tonfeddi, gan ddarlledu i’r fwrdeistref gyda’i raglen arferol o gerddoriaeth a thynnu coes, newyddion traffig ac eitemau o ddiddordeb lleol. Ar wahân i ofyn i staff Hillserve i ymuno ag ef ar yr awyr, ei unig ofynion oedd am “custard creams” a chyflenwad diddiwedd o goffi!

<<Yn ôl