Swinton United
NEWYDDION

Swinton United

HYDREF 2009

Mae’n anodd rheoli tîm pêl-droed yn yr uwch gynghrair. Mae’n anodd iawn rheoli tîm pêl-droed Dan 9. Gall y pwdu, y strancio a’r iaith aflednais fod yn anodd i reolwr gwirfoddolwr ei ddioddef; dylai rhieni wir wybod yn well.

Mae Mike Thorpe yn rheoli ei dîm pêl-droed dan 9 lleol, y nerthol Swinton United. Yn ogystal â sicrhau nad yw 4-3-3 yn troi’n 1-1-8, mae’n rhaid i Mike sicrhau bod dillad y tîm yn barod, bod yr ystafelloedd newid yn lân, bod y byrbryd hanner amser yn iachus a bod petrol yn y bws mini. Mae hyn oll yn cymryd pres nad oes gan y rhan fwyaf o dimau amatur i’w wario.

Gan wybod bod Hillserve, ble mae Mike yn gweithio fel Gosodwr Waliau Ceudod, yn hoffi cefnogi’r gymuned leol daeth Mike atynt i ofyn am nawdd. Gydag un gweithiwr yn hyfforddi’r tîm a Jack, mab Rheolwr Storfa cangen Warrington, David Fielding, yn chwarae i’r tîm, roedd Hillserve yn hapus i gynorthwyo ac yn falch o gefnogi Swinton United yn eu hymgyrch y tymor hwn.

<<Yn ôl