Warm-A-Walls, waliau gwell
Mae system gladin allanol Warm-A-Walls Hillserve yn gwella daliad gwres mewn adeilad yn sylweddol ac yn adnewyddu hen waliau blinedig.
Mae ein tîm arbenigol yn gosod yn atodi estyll insiwleiddio cadarn i’r waliau brics neu concrid. Gydag atgyfnerthiad rhwyll yn ei le, ychwanegir côt gyntaf barhaol a all wrthsefyll y tywydd cyn ei orffen gyda rendrad addurnol. Gall y broses hon ostwng coll gwres drwy wal gadarn o 80%, gan olygu bod yr adeilad yn aros yn gynhesach ac yn costio llai i’w gynhesu.
Y tu hwnt i wella effeithiolrwydd ynni, bydd y system Warm-A-Walls yn adnewyddu edrychiad allanol cartref. Bydd waliau oedd yn dangos treigl amser yn edrych yn newydd unwaith eto, diolch i gynnyrch sy’n integreiddio’n ddi-dor i ddeunydd yr adeilad.
