SYSTEMAU CLADIN MEWNOL

Spacetherm, defnyddio gwyddoniaeth

Pan nad yw insiwleiddio ceudod yn bosib, neu pan nad yw cladin allanol yn ymarferol, mae gan Hillserve ddewis arall; system gladin mewnol Spacetherm.

Mae Spacetherm yn wirioneddol uwch dechnolegol. Mae ei brif gynhwysyn, Aerogel, yn ddeunydd insiwleiddio a ddefnyddiwyd gan NASA. Ymgorfforir Aerogel mewn blanced ffibrog ac yna’n cael ei glymu i fwrdd plastr cyffredin i greu paneli Spacetherm. Gall y paneli hyn fod cyn lleied ag 17mm mewn trwch, ond gallant leihau colled gwres o 45%.

Mae tîm gosod Hillserve yn atodi paneli Spacetherm ar waliau mewnol presennol gan ddefnyddio hoelion bwrdd plastr cyffredin. Mae’r distiau wedyn yn cael eu tapio a’r tyllau hoelion yn cael eu llenwi’n barod i’w gorffen. Yn ychwanegol i berfformiad thermal arbennig, mae paneli tenau Spacetherm yn gostwng colled gofod ystafell o’i gymharu â dulliau cladin mewnol llai technolegol.