Mae insiwleiddio waliau ceudod yn rhan angenrheidiol o godi adeiladau modern ac yn gynyddol ofynnol fel diweddariad i stoc tai hŷn.
Mae adeiladau heb lefelau digonol o insiwleiddio yn gallu colli hyd at 35% o wres drwy waliau yn unig, sy’n golygu cynnydd o 25% mewn costau ynni.
Yn Hillserve rydym yn gosod dros 20,000 o osodiadau waliau ceudod bob blwyddyn ac mae’r rhif yn tyfu. Mae’r profiad a’r arbenigedd hwn yn ein gwneud yn bartner contract delfrydol ar gyfer ystod eang o brif gontractwyr yn ogystal â darparwyr tai cymdeithasol, cwmnïau gwasanaethau ac awdurdodau lleol.
Darperir y cynnyrch insiwleiddio a osodwn gan wneuthurwyr mwyaf blaengar y D.U. a gwneir ein holl waith ar y safle gan ein gosodwyr sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr. Mae gwarant 25 mlynedd gan Asiantaeth Gwarantu Deunydd Inswleiddio Waliau Ceudod (CIGA) ar ein holl waith
