WALIAU CEUDOD

Gwir gost waliau ceudod heb eu hinsiwleiddio

Os adeiladwyd eich cartref ar ôl y 1930au, mae’n debyg y bydd waliau ceudod yno. Golyga hyn bod gan y waliau allanol ddwy haen gyda gofod rhyngddynt. Os nad yw’r gofod hwn wedi’i insiwleiddio’n ddigonol, gallwch fod yn colli hyd at 35% o wres eich cartref drwy’r waliau, a allai yn ei dro fod yn ychwanegu hyd at 25% i’ch biliau ynni.

Yn ogystal ag ychwanegu i’ch costau ynni cartref, gall peidio insiwleiddio’ch waliau ceudod ychwanegu at newid yn yr hinsawdd. Y rheswm am hyn yw bod gwastraffu ynni yn creu cynnydd mewn allyriadau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd, sy’n niweidiol i’r amgylchedd.

Cyflenwir y cynnyrch insiwleiddio a osodwn gan wneuthurwyr mwyaf blaengar y D.U. ac mae ein holl waith yn cael ei wneud ar y safle gan ein gosodwyr sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr. Mae gwarant 25 mlynedd gan Asiantaeth Gwarantu Deunydd Inswleiddio Waliau Ceudod (CIGA) ar ein holl waith.

Cyflym, glân a hawdd i’w osod

Y newyddion da yw bod insiwleiddio’ch waliau ceudod yn gyflym ac yn gost effeithiol. Er mwyn ei wneud, mae Hillserve yn defnyddio deunydd o’r enw gwlân slag wedi’i chwythu. Wedi’i wneud o ddefnyddiau a thrwy brosesau amgylcheddol gyfeillgar, gall hwn gael ei chwistrellu i mewn i ofod eich waliau drwy dyllau bach. Unwaith wedi’i gwblhau, bydd Hillserve wedyn yn ail-lenwi’r tyllau, gan gydweddu’r brics a morter presennol mor agos ag sy’n bosib.

Am fwy o wybodaeth am insiwleiddio waliau ceudod a sut y gall Hillserve eich cynorthwyo, ffoniwch 0800 622415